Plan Your Adventure →

Zip World

#ProfwchAntur

Mae ZipWorld yn gartref i anturiaethau hynod wedi’u lleoli mewn tri lleoliad trawiadol yng Ngogledd Cymru.

ZipWorld, Chwarel y Penrhyn, Bethesda

Wedi ei leoli ger mynyddoedd trawiadol Eryri, yn yr hyn a arferai fod y chwarel lechi fwyaf yn y byd, mae Chwarel y Penrhyn erbyn hyn yn gartref i Velocity 2, y wifren wib gyflymaf yn y byd, lle gallwch hedfan 500m uwchben llyn glas llachar y chwarel. Dysgwch bopeth am hanes y chwarel ar Daith Chwarel y Penrhyn neu gwyliwch y gwibwyr yn hedfan heibio o Fwyty Blondin neu FforestCaffi. Os ydych yn chwilio am leoliad corfforaethol unigryw, mae’r Gallery yn fan cyfarfod gyda golygfa heb ei hail.

Ogofâu Llechi ZipWorld, Blaenau Ffestiniog

Yn gartref i gyfoeth o hanes chwareli llechi, mae’r Ogofâu Llechi yn ganolfan i’r anturiaethau tanddaearol ac uwchddaearol cyntaf yn y byd. Gyda golygfeydd o Eryri o ben Titan, lle gallwch wibio 1890m o hanner uchder yr Wyddfa, i’r unig faes chwarae tanddaearol o’i fath yn y byd, Bounce Below, a’r Ogofâu, y cwrs antur a’r wifren wibio danddaearol mwyaf anhygoel – mae yna rywbeth at ddant pawb ym mhob tywydd.

ZipWorld Fforest, Betws-y-Coed

Wedi’u lleoli mewn coetir trawiadol yn swatio yn Nyffryn Conwy, ger pentref eiconig Betws y Coed, mae llu o anturiaethau coedwig a danteithion yn eich disgwyl. Gydag anturiaethau i gadw’r teulu i gyd yn brysur drwy’r dydd, dewiswch o’r Fforest Coaster, yr unig reid Alpaidd o’i fath yn y DU, bownsio hwyliog ar Rwydi Treetop neu wifren wib a chyrsiau antur ar Tree Hoppers neu Zip Safari – ac os ydych yn teimlo’n ddewr, gallech fynd ar siglen anferth uchaf Ewrop, Skyride!

Peidiwch ag anghofio!

Ceir cyfyngiadau i bob antur, ewch i’r wefan am fanylion llawn: www.zipworld.co.uk/restriction...
I weld ein telerau ac amodau, ewch i: www.zipworld.co.uk/contact/terms-and-conditions

BWYTA

Bwyty Blondin- wedi ei leoli yn ZipWorld Chwarel y Penrhyn, Bethesda, mae Bwyty Blondin yn fistro sydd ar agor 7 diwrnod yr wythnos ac yn cynnig bwydydd blasus wedi’u ffynonellu’n lleol. Mae’r bwyty, sy’n dal 150, yn cynnig cyfuniad o seddi dan do a theras awyr agored gyda golygfeydd o’r chwarel lechi enwog a dyfroedd gwyrddlas Chwarel y Penrhyn. Fedrau yn unig uwchben y teras mae’r wifren wib fwyaf gyflymaf yn y byd, Velocity 2, gan alluogi’r bwytwyr i gael golwg agos ar antur. Archebwch eich bwrdd heddiw.

FforestCaffi – Ceir cymysgedd o seigiau Cymreig traddodiadol gyda thwist modern ac amrywiaeth o seigiau unigryw. Mae’r rhain yn cynnwys cynhwysion wedi’u ffynonellu’n lleol, gyda phwyslais ar fwydlenni tymhorol sydd yn organig, iach ac yn ymwybodol o alergeddau.

CYFLEUSTERAU ERAILL

Man Cyfarfod a Digwyddiadau:

Mae anturiaethau ZipWorld yn cynnig rhywbeth i bawb. Mae’r profiadau unigryw yn gyfrwng delfrydol i hybu eich gwaith tîm, cynnal cyfarfodydd, partïon neu ddifyrru criw.

Lawrlwythwch ein llyfryn corfforaethol
Lawrlwythwch ein pecynnau corfforaethol

Gall ein Tîm Archebu Antur addasu pecyn teilwredig ar gyfer eich gofynion. Ebostiwch events@zipworld.co.uk am fwy o wybodaeth.

Partïon Pen-blwydd Plant: Mae ZipWorld wedi creu y pecyn pen-blwydd plant perffaith i sicrhau dathliad pen-blwydd llawn antur.

SUT I DDOD O HYD I NI

ZipWorld Chwarel y Penrhyn
Chwarel y Penrhyn, Bethesda, Gwynedd, LL57 4YG

Ogofâu Llechi ZipWorld
Ogofâu Llechi Llechwedd, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3NB

ZipWorld Fforest
ZipWorld Fforest, A470, Betws-y-Coed LL24 0HA

Contact

Gwefan

www.zipworld.co.uk

Ffôn

01248 601444