AdMap App

Mae’r Ap AdMap ar gael i’w lawrlwytho heddiw o Google Play Store ac Apple App Store.

Dewch o hyd i anturiaethau rhyfeddol yng Ngogledd Cymru gyda’r ap hwn sy’n hawdd ei ddefnyddio. Mae gan yr ap bopeth sydd ei angen arnoch i gynllunio’ch taith i Ogledd Cymru a’ch tywys chi o gwmpas wrth i chi grwydro. Lawrlwythwch yr ap ar gyfer y penwythnos yn unig neu cewch ei ddefnyddio i ddysgu mwy am yr ardal ac ehangu’ch profiadau.

Gyda’r Ap AdMap gallwch:

  • Ganfod anturiaethau cyffrous i fynd arnynt yng Ngogledd Cymru.
  • Dderbyn negeseuon am y cynigion arbennig diweddaraf wrth i chi grwydro’r ardal (opsiynol).
  • Dysgu mwy am yr anturiaethau sy’n agos i’ch lleoliad.
  • Cael cyngor a gwybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â ble i aros a bwyta gan ddefnyddio’r mapiau rhyngweithiol.
  • Tynnu hunluniau gyda fframiau arbennig, i gofio a rhannu eich anturiaethau.
Admap App 3 In A Row 1

Mae gan yr Ap newydd fapiau rhyngweithiol i’ch helpu chi gynllunio antur ryfeddol. Treuliwch wyliau llawn adrenalin yn: canŵio, dringo, barcudfyrddio, beicio mynydd, mynd ar gwch cyflym, mynd ar wifren sip, pledu paent, syrffio, cymryd rhan mewn triathlon, rafftio dŵr gwyn a llawer mwy! Mae’r Ap AdMap yma i’ch ysbrydoli.

Admap App 3 In A Row 2

Chwiliwch am yr Ap AdMap yn yr App Store.

360 Beacon Images Header
New 360 degree images, Beacon Climbing Centre, available in the AdMap App.

New images of the climbing walls at the Beacon Climbing Centre are now available in the AdMap App, from September 2018.