AMDANOM NI

#DewiswchAntur yng Ngogledd Cymru i ddarganfod eich profiad epig #FindYourEpic.

Rydym yn un o’r 10 cwmni antur gorau yng Ngogledd Cymru, sy’n cydweithio i hyrwyddo ein hardal fel y lle gorau ar gyfer twristiaeth antur awyr agored yn y DU.

Rydym wedi datblygu Ap ar gyfer eich Android 6 neu ffôn symudol iOS 10. Bydd yr AdMap App yn dweud wrthych pa anturiaethau sydd ar gael gerllaw ac yn eich helpu i ddarganfod anturiaethau cyffrous yng Ngogledd Cymru.

Defnyddiwch yr Ap ar y wefan hon i ddod o hyd i brofiadau anhygoel am 24 awr, 48 awr neu 72 awr o anturiaethau yng Ngogledd Cymru.

CYSYLLTU Â NI

A wnewch chi gysylltu â phob Darparwr Antur yn unigol i archebu eich profiadau epig. Er ein bod yn cydweithio, ar hyn o bryd nid oes gennym wasanaeth archebu i wneud eich trefniadau i gyd.

Os gwnewch chi gysylltu â’ch prif ddarparwr antur, byddant yn hapus i’ch rhoi chi ar ben ffordd.

Gobeithio y bydd y MapAntur yn eich ysbrydoli i anturio yng Ngogledd Cymru ac yn ganllaw defnyddiol i gwmnïau antur proffesiynol o ansawdd uchel.

Am ymholiadau’r cyfryngau neu gyffredinol, cysylltwch ag: adventuremapnwales@gmail.com

Mae’r tîm MapAntur yn cynnwys 10 cwmni antur sy’n cydweithio i hyrwyddo ein hardal fel y lle gorau ar gyfer twristiaeth antur awyr agored yn y DU: Camu i’r Copa, Canolfan Dŵr Gwyn Genedlaethol, Canolfan Ddringo Beacon, FunSport, Oneplanet Adventure, Parc Gweithgaredd Dragon Raiders, Plas y Brenin – Y Ganolfan Fynydda Genedlaethol, RibRide, Surf Snowdonia a ZipWorld.

Chooseadventure Black

Ariannwyd y prosiect hwn yn rhannol gan Lywodraeth Cymru, cynllun Cronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth (TPIF) 2017-2019.