HER UNWAITH MEWN OES I ADA

Mae ceisiwr cyffro deg oed o Fae Colwyn yn mynd i gael blwyddyn i’w chofio ar ôl bachu swydd ei breuddwydion. Mae Ada Marie Brien wedi cael y swydd deitl Profwr Anturiaethau Iau gan y wefan Map Antur, y casgliad o naw o fusnesau twristiaeth antur sydd wedi’u gwasgaru ar draws Gogledd Cymru.

Nawr bydd y ferch ifanc sy’n ddisgybl yn Ysgol Pen y Bryn ym Mae Colwyn yn cael edrych ymlaen at fwynhau cyfres o weithgareddau llawn adrenalin, gan gynnwys rafftio dŵr gwyn, caiacio, abseilio, dringo creigiau, syrffio, beicio mynydd a gwifren sip cyflymaf y byd.

Bachodd Ada'r swydd ar ôl cyflwyno ei ‘CV antur’ fel rhan o gystadleuaeth genedlaethol. Synnodd y beirniaid gyda’i storiâu am ddringo’r Wyddfa, croesi afon Menai mewn canŵ wedi’i adeiladu gartref ac archwilio llwybrau dringo heriol Chwareli Llechi Dinorwig.

Dywedodd Ada sy’n llawn cyffro: “Mae anturiaethau weithiau ychydig yn frawychus, ond maen nhw’n ofnadwy o gyffrous. Maen nhw’n eich gwthio i’r eithaf, yn eich gwneud yn gryfach ac yn fwy hyderus ac maen nhw’n bendant yn gallu newid eich bywyd.

“Ni allaf aros i roi cynnig ar holl weithgareddau’r Map Antur gyda fy nheulu a’m ffrindiau. Rhain yw’r math o ddiwrnodau allan sy’n gwneud i mi feddwl wedyn ‘Waw! Mi wnes i wir wneud hynna’.

“Anturio yw fy nod dyddiol ac rwyf yn cadw pob eiliad o bob antur yn fy nghof. Mae yna antur rownd y gornel bob amser.”

Dywedodd Jo Quinney, o'r wefan Map Antur: “Cawsom ein syfrdanu gan y nifer o Anturiaethwyr Iau wnaeth gystadlu yn ein cystadleuaeth - ond Ada oedd yr enillydd amlwg.

“Llwyddodd y stori a adroddodd am ymlwybro trwy Chwarel Lechi Dinorwig a dringo tomennydd llechi oedd mor uchel i hoelio sylw pawb. Mae hi’n arbennig o dda am adrodd stori ac yn anturiaethwr heb ei hail!

“Mae yna gymaint o ysbryd o her a mentro ymysg y plant a’r bobl ifanc sy’n ymweld â’r holl leoliadau sy’n rhan o’r Map Antur ac mae hyn yn cael ei arddangos yn berffaith gydag Ada a’i synnwyr o archwilio a darganfod.

“Rydym yn siŵr y bydd hi’n cael amser wrth ei bodd yn profi’r holl weithgareddau sydd gennym i’w cynnig ac rydym yn edrych ymlaen at ei chroesawu hi i holl ganolfannau’r Map Antur yn rhinwedd ei swydd newydd.”

Briff y Cystadleuaeth: anturiaethwr-iau