Plan Your Adventure →

Parc Gweithgareddau Dragon Raiders

Y Parc Gweithgaredd Gorau yn y DU

Mae Parc Gweithgareddau Dragon Raiders wedi cael ei sefydlu ers dros 10 mlynedd, wedi’i leoli mewn dros 100 erw o ystad wledig breifat ar Benrhyn Llŷn.

Rydym yn cynnig y gweithgareddau antur canlynol:

  • Anturiaethau Segway X2
  • Parc Paentfilwra Dragon Raiders
  • Antur Hanner Diwrnod Bear Grylls
  • Goroesi Gwersylla Gwyllt Bear Grylls (Antur Oroesi 18 awr dros nos)
  • Her Eryri X2 Bear Grylls (Antur Oroesi Deuddydd)

Mae Anturiaethau Segway X2 yn rhoi’r cyfle i chi brofi’r wefr a’r cyffro o gleidio trwy ein coetir hardd neu ymgymryd â her ein cyrsiau rali.

Mae’r Paentfilwra wedi’i leoli o fewn 30 erw o goedwig gysefin, lle mae parthau gêm pwrpasol wedi cael eu creu ar gyfer y profiad paentfilwra gorau. Rydym yn darparu ar gyfer hyd at 100 o chwaraewyr ac yn cynnal sesiynau hanner diwrnod, diwrnod llawn a gyda’r nos.

Mae cwrs Hanner Diwrnod Bear Grylls yn rhoi cyfle dysgu gwych i chi a chyfle prin i ddysgu technegau goroesi eithafol Bear. Bydd y technegau a addysgir yn cynnwys dysgu sut i wneud tân heb fatsys, sut i dramwyo yn y diffeithwch, dysgu am fwyd naturiol, codi lloches oroesi a dysgu blaenoriaethau goroesi Bear a’i dîm agos o arbenigwyr tra hyfforddedig.

Rydym yn cynnig tri gweithgaredd gwahanol iawn i chi, gydag apêl eang i bobl o bob oedran. Mae cwrs goroesi Hanner Diwrnod Bear Grylls yn gynnig unigryw o fewn y DU.

Parc Gweithgareddau Dragon Raiders yw’r lleoliad delfrydol ar gyfer tripiau ysgol, dyddiau allan corfforaethol, penblwyddi, twristiaid ac achlysuron arbennig. Cewch groeso cynnes bob amser ac ni chewch eich siomi, pa bynnag weithgaredd y byddwch yn ei ddewis!

Accommodation

Talhenbont Hall

01766 810247

Trawsfynydd Holiday Village

01766 540219

Portmeirion

01766 770000

Food and Drink

Coconut Kitchen, Abersoch

01758 712250

Cafi Gwynant

01766 890855

Brondanw Arms

01766 770555