Plan Your Adventure →

RibRide

Teithiau Cwch ac Anturiaethau Grŵp

Rydym yn rhoi croeso cynnes i ymwelwyr o bob cwr o’r byd. O’n hiard gychod ym Mhorthaethwy, rydym yn gweithredu ar Gulfor Menai cysgodol.

Mae mynd ar daith gwch ar Gwch Chwythadwy Anhyblyg (RIB) yn ffordd anhygoel o brofi’r amgylchedd morol hardd hwn.

Rydym yn darparu ar gyfer unigolion neu ANTURIAETHAU GRŴP o unrhyw oedran (dros 4 oed). Gallwch fynd ar daith un-awr neu logi cwch am ddiwrnod cyfan a mynd o amgylch Ynys Môn. Mae ein cychod yn gadael o’n canolfan ym Mhorthaethwy trwy gydol y flwyddyn.

Reidiwch ar y RIB teithwyr cyflymaf gyda’n cwch newydd VELOCITY.

Neu ewch am daith ANTUR i dri lleoliad hardd:

  • Palod a Morloi,’ Taith 1.5-awr.
    Os ydych yn mwynhau gwylio adar a morloi, ymunwch â ni ar Daith Gwch Ynys Seiriol i weld y morloi a’r bywyd adar anhygoel ar Ynys Seiriol.
  • Cestyll ac Ynysoedd’ Taith 2-awr.
    Am yr olygfa orau o Gastell Caernarfon a’r morlun agored, ewch ar y daith hon i Ynys Llanddwyn.
  • Pontydd a Throbyllau’ - Taith 1-awr.
    Ewch ar ein taith ‘glasurol’ o dan y pontydd hardd sy’n croesi Culfor Menai. Dewch ar Antur trwy’r trobyllau troellog.

Neu ewch i ARCHWILIO dau gyrchfan anhygoel o Farina Caergybi yn yr haf:

  • Ynys Lawd a’r Gogarth’ Taith 1-awr.
    Cewch weld y prif rywogaethau sy’n trefedigaethu clogwyni uchel Ynys Môn ym misoedd cynnar yr haf.
  • Ynysoedd y Moelrhoniaid’ Taith 2-awr
    Mae hon yn daith unwaith mewn oes gyda chlogwyni uchel Ynys Lawd, goleudai ac ynysoedd creigiog gwyllt y Moelrhoniaid. Mae’r bywyd adar yn wirioneddol anhygoel.

Nid oes angen unrhyw sgiliau i fynd ar y RibRide, dim ond gallu cerdded 200 medr at y man gadael, dringo i lawr 3 gris ar ysgol blygu fer yna cymryd un cam gweddol fawr i lawr i’r cwch.

Rydym yn darparu siacedi achub, y cyfan sydd arnoch ei angen yw esgidiau neu fŵts gwadnau meddal a dillad cynnes, mae haenau niferus yn hanfodol. Gellir gweld ein cwestiynau a holir yn aml ar-lein yn FAQ.

Gallwch naill ai archebu ar-lein

neu ein ffonio ni ar ein rhif pris lleol i drafod eich RibRide. Rydym yn derbyn pob prif gerdyn credyd. Mae argaeledd seddi ‘byw’ ar gael ar-lein, ARCHEBWCH eich antur 24/7 yma.

Accommodation

Dylan's Restaurant

Menai Bridge: 01248 848660

Wonderfully Wild Glamping

Beaumaris: 07837 951790

Menai Holiday Cottages

01248 430258

Food and Drink

Dylan's Restaurant

Menai Bridge: 01248 716714

Criccieth: 01766 522773

Sospan & the Old Butchers

01248 208131

Freckled Angel

01248 209952