Diwrnod Agored Prifysgol Bangor

Croeso i Ddiwrnod Agored Prifysgol Bangor 2017.
Mae Gogledd Cymru yn lle gwych am antur. Yn ddiweddar, roedd ymhlith ’y 10 rhanbarth gorau’ yn rhestr Lonely Planet o’r cyrchfannau gorau ar gyfer 2017.

Hoffem gynnig disgownt o 10% yn rhai o leoliadau aelodau MapAntur yn ystod eich ymweliad, i’ch annog i ddarganfod rhai o’r anturiaethau ardderchog sydd gan Ogledd Cymru i’w cynnig.

Deg o fusnesau antur awyr agored ydym ni, ac mae gennym gysylltiadau cryf â’r Brifysgol. Mae llawer o’n staff yn gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor, ac rydym yn gwybod pa mor wych yw mynd ar antur yng Ngogledd Cymru.

Mae Cynnig Diwrnod Agored Prifysgol Bangor ar gael:
O ddydd Gwener 23 Mehefin tan ddydd Llun 26 Mehefin (gan gynnwys y dyddiad hwn)
O ddydd Gwener 7 Gorffennaf tan ddydd Llun 10 Gorffennaf (gan gynnwys y dyddiad hwn)

Cysylltwch â’r darparwr antur unigol i archebu:

  • RibRide, 0333 1234303, 2 filltir o Fangor. 10% oddi ar y trip 'Bridges and Swellies'. Ffoniwch i archebu
  • Canolfan Ddringo Beacon, 01286 677322, 9 milltir o Fangor. Sesiwn gynefino am ddim i rai sydd am geisio bowldro am y tro cyntaf, neu sesiwn bowldro am ddim i rai sydd â rhywfaint o brofiad. Defnyddiwch y cod 549089 https://www.beaconclimbing.com/sessions/
  • Surf Snowdonia, 01492 353123, 22 filltir o Fangor. 10% oddi ar bob gweithgaredd tonnau, gan ddefnyddio’r cod OPEN10 https://surfsnowdonia.com/.
  • Parc Gweithgareddau Dragon Raiders, 01766 523119, 25 milltir o Fangor. Mynediad am ddim i’r gweithgaredd pledu paent (heb gynnwys y peli paent). 10% oddi ar deithiau Segway. Ffoniwch i archebu.
  • Y Fforest Coaster yn Zip World, 01248 601444, 41 milltir o Fangor. 10% i ffwrdd gan ddefnyddio’r cod BANGORCOASTER, https://www.zipworld.co.uk/adventure/detail/fforest-coaster
  • Y Ganolfan Dŵr Gwyn Genedlaethol, 01678 521083, 42 milltir o Fangor. Llogi siwt wlyb am ddim. Ffoniwch i archebu.
  • Oneplanet Adventure, 01978 751656, 55 milltir o Fangor. 10% oddi ar gyrsiau sgiliau. Ffoniwch i archebu.

Mae’r telerau ac amodau. Mwynhewch eich ymweliad â Phrifysgol Bangor a gobeithio y cewch antur werth chweil yng Ngogledd Cymru.