Plan Your Adventure →

Canolfan Ddringo Beacon

Glaw neu hindda, dewch i ddringo!

Mae dringo dan do yn un o’r chwaraeon sy’n tyfu gyflymaf o ran poblogrwydd, gyda champfeydd dringo wedi’u lleoli mewn trefi a dinasoedd trwy’r byd i gyd. Bydd hyd yn oed yng Ngemau Olympaidd 2020!

Wedi’i gynllunio, ei adeiladu a’i ddefnyddio gan bobl sy’n frwd dros ddringo, Beacon yw’r ganolfan ddringo dan do fwyaf yng Ngogledd Cymru. Mae ein dringwyr yn 5-80+ oed, a’n dringo wedi ei gynllunio ar gyfer pob lefel, o brofiad cyntaf i berfformiad elît.

Yn gymdeithasol, deinamig a hwyliog, mae dringo yn rhoi gwefr gorfforol a meddyliol i chi, ac yn newid perffaith o’r ymarferion diflas arferol yn y gampfa, yn darparu sesiwn ymarfer ddifyr ar lefel benodol i’r unigolyn. Mae hefyd yn ffordd wych o brofi i blant fod ymarfer corff yn medru bod yn hwyl!

Cewch synnwyr o gyflawniad diguro wrth goncro ein waliau rhaff uchel, profi rhyddid dringo heb ddefnyddio rhaff yn ein mannau bowldro lefel-isel, neu beth am drio rhywbeth hollol wallgo: CrazyClimb gyda dros 15 o heriau dringo honco!

Mae’n addas ar gyfer pob oedran a gallu, a bydd ymarfer yn rheolaidd yn gwella deinameg, ystwythder, nerth a chryfder eich corff. Mae’n dda i’ch meddwl hefyd ac yn wych i chwalu straen gan ei fod yn gofyn i chi ganolbwyntio eich meddwl yn llwyr ar symudiadau eich corff.

Cadwch mewn siâp, anghofiwch am bwysau bywyd bob dydd ac yn anad dim, mwynhewch eich hun yn y broses. Mae’n gamp sy’n gweddu i bawb... gan eich cynnwys chi.

Contact

Gwefan

www.beaconclimbing.com

Archebu

www.beaconclimbing.com/book/

Ffôn

01286 677 322

Accommodation

Gallt y Glyn

01248 870370

Pete's Eats Bunkhouse

01286 870117

YHA Snowdon Llanberis

0345 3719645

Food and Drink

Caffi Barcud at Beacon

01286 677322

Gallt y Glyn

01286 870370

Pete's Eats

01286 870117