Plan Your Adventure →

Canolfan Dŵr Gwyn Genedlaethol

Rafftiwch ar Ddyfroedd Gwylltion Naturiol ym Mharc Cenedlaethol Eryri

Mae’r Ganolfan Dŵr Gwyn Genedlaethol yn cynnig anturiaethau dŵr gwyn ardderchog o’n canolfan ar lan Afon Tryweryn ger Y Bala. Rafftio ar ddyfroedd gwylltion naturiol gwefreiddiol mewn ucheldir trawiadol ym Mharc Cenedlaethol Eryri yw’r brif atynfa, a chan fod Afon Tryweryn yn cael ei rheoli fel argae, mae ganddi lifau uchel sy’n ddelfrydol ar gyfer gweithgareddau dŵr gwyn trwy gydol y flwyddyn.

Gellir addasu ein gweithgareddau ar gyfer pob lefel. Mor boblogaidd gyda chyplau ac unigolion ag ydynt gyda grwpiau sy’n dathlu achlysur arbennig gyda gweithgaredd i’w gofio.

Mae pob gweithgaredd yn cychwyn ac yn gorffen yn y ganolfan, lle gallwch newid mewn cysur, cynhesu mewn cawodydd poeth a mwynhau’r caffi ar lan yr afon.

Gweithgareddau:

Mae’r ganolfan hefyd ymhlith y cyrchfannau caiacio dŵr gwyn mwyaf poblogaidd yn y DU, gyda phadlwyr yn mwynhau dyfroedd gwylltion dŵr gwyn heriol a chyfleusterau penigamp. Cynhaliwyd sawl pencampwriaeth byd yn y ganolfan, yn ogystal â bod yn lleoliad ar gyfer cystadlaethau cenedlaethol mewn disgyblaethau amrywiol.

Cyfleusterau ar gyfer caiacwyr